OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1067 (Cy. 106)
ADNODDAU DŴR, CYMRU
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn amrywio Rhan 2 o Atodlen 2 (dŵr wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy'n rhestru'r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Llyn Padarn a Dwyrain y Rhyl at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Nid oes unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y rheoliadau diwygiedig hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau neu'r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
ADNODDAU DŴR, CYMRU
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 21 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ebrill 2014
Yn dod i rym 15 Mai 2014
Dynodir Gweinidogion Cymru mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno o'r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru wedi dewis ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”) ([3]).
Enwi, cychwyn a rhychwantu
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mai 2014.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Amrywio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2.—(1) Mae’r Rheoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dŵr wyneb yng Nghymru)—
(a) ar ôl “Llanrhystud”, mewnosoder “Llyn Padarn”; a
(b) ar ôl “Rhyl”, mewnosoder “Rhyl East”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru.
21 Ebrill 2014
([1]) Gweler O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae'r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.